| Yn ôl mytholeg Gristnogol, y Greal Santaidd neu'r
Sangreal oedd y llestr a ddefnyddiodd Iesu yn y Swper
Olaf. Dywedid fod gan y llestr yma alluoedd
goruwchnaturiol.
Crybwyllir y Greal gyntaf yn Perceval, le Conte du
Graal gan Chrétien de Troyes, sy'n dyddio rhwng 1180 a
1191. Cysylltir y Greal Santaidd yn aml a Joseff o
Arimathea; ymddengys fod hyn yn dyddio o Joseph d'Arimathie
gan Robert de Boron yn ddiweddar yn y 12fed ganrif, lle
dywedir i Joseff dderbyn y Greal gan weledigaeth o'r
Iesu a'i yrru gyda'i ddilynwyr i Ynys Brydain. Mewn
fersiynau diweddarach, dywedir i Joseff ddefnyddio'r
Greal i gasglu gwaed Iesu wrth ei gladdu. Daeth hanes y
Greal yn ran bwysig o'r chwedlau ynghlwm wrth y brenin
Arthur, gan ymddangos gyntaf yn y cyswllt yma yng
ngwaith Chrétien de Troyes.
Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft R. S. Loomis,
fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell Geltaidd, gan
gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau
Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y Pair Dadeni, a'r
peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r duwiesau
Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a
ffynhonell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim
ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.
Yn Gymraeg, nid yw Peredur fab Efrawg yn y Tair
Rhamant yn crybwyll y Greal wrth ei enw, er bod y Greal
yn elfen bwysig yn y fersiwn Ffranged cyfatebol,
Perceval, le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes, lle
mae Perceval yn cyfarfod y Brenin-Bysgotwr sydd wedi ei
anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei
iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael
hyd i gastell y Greal. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw
yn Gymraeg yn Ystoryaeu Seint Greal, cyfeithiad yn y
14eg ganrif o ddau destun Ffrangeg cynharach.
Mewn fersiynau diweddarach o stori'r Greal yn
Ffrangeg a Saesneg, Galahad, mab Lawnslot, yw'r unig
farchog sy'n ddigon pur i lwyddo yn yr ymchwil am y
Greal.
Yn ddiweddarach, cysylltwyd y Greal a phlasdy Nanteos
yng Ngheredigion. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw
Cwpan Nanteos. Dywedid mai hwn oedd y Greal, wedi ei
gludo o Ynys Wydrin i Abaty Ystrad Fflur ac yna i
Nanteos.
|